TMPL Online
a partner in creating futures

Skip navigation

Siarad Cymraeg?

Gyda swyddfeydd yng Nghymru a Lloegr (Caerdydd a Dyfnaint), mae TMPL yn ymgynghoriaeth busnes a chwmni hyfforddiant deuddeg oed sydd ar restr 50 cwmni Twf Cyflym Cymru ac sy'n gweithio gyda chleientiaid proffil uchel ar draws y DU ac yn Ewrop. Rydym yn canolbwyntio ar ymgynghoriaeth broses, lle rydym yn bartner gyda'r cleientiaid wrth sicrhau eu bod yn cyrraedd y man lle maent eisiau bod. Rydym yn datblygu prosiectau ac yn teilwra rhaglenni sy'n diwallu anghenion penodol ein cleientiaid, yn amrywio o ymyriadau un-tro i brosiectau tymor-hir ar raddfa fawr a ddarperir i nifer o gleientiaid dros gyfnod o flynyddoedd. Rydym wedi gweithio gyda phrosiectau Ymchwil a Datblygiad sy'n cwmpasu Ewrop gyfan, gyda chyrff y sector cyhoeddus a sefydliadau mawr, ac rydym hefyd yn rhoi cymorth i unigolion a busnesau bach a chanolig. Mae'r sectorau rydym wedi gweithio gyda hwy yn cynnwys: cyrff anllywodraethol, llywodraeth leol, Ymddiriedolaethau'r GIG, gwasanaethau tân, cyrff dielw, elusennau, cyrff celfyddydol a diwylliannol, diwydiannau creadigol, adrannau llywodraethau Cymru a Lloegr, datblygiad/hyfforddiant sgiliau a'r sector preifat.

Mae TMPL yn gweithio i alluogi ein cleientiaid (yn unigolion, sefydliadau a rhwydweithiau sector) i gyflawni eu potensial llawn. Mae cyfarwyddwyr TMPL wedi gweithio yn sector ymgynghoriaeth a hyfforddiant rheolaeth ers deng mlynedd ar hugain.

Tîm brwdfrydig a gweithgar yw TMPL; rydym ni a'n cleientiaid yn disgwyl i ni ymdrechu a darparu rhagoriaeth ym mhob maes gweithgaredd.

Rydym yn defnyddio technoleg i raddau mawr yn ein gwaith, i redeg y busnes ac wrth ddarparu prosiectau.

Y dull arloesol
Mae TMPL ychydig yn anarferol fel cwmni hyfforddiant ac ymgynghoriaeth, gan fod ei ddull yn ymatebol ac ar yr un pryd yn rhagweithiol. Rydym yn datblygu rhaglenni sy'n diwallu anghenion ein cleientiaid, ac rydym yn weithgar wrth greu a gweithredu cysyniadau a fydd yn dwyn ymlaen datblygiad proffesiynol a sefydliadol parhaol gydag ac i'r sectorau yr ydym yn gweithio gyda hwy.

Ymgynghoriaeth
Mae rôl ymgynghoriaeth TMPL bob amser fel partner mewn unrhyw broses, gan roi ffocws ac arweiniad i'r sefydliad sy'n gleient i ni ac i'w bobl a'i bartneriaid, yn hytrach na rhoi atebion cyfarwyddol. Yn y modd hwn, mae gan y cleient berchnogaeth lwyr ar y prosiect a'i ddatrysiad.

Hyfforddiant
Mae amrywiaeth ein gwaith hyfforddi hefyd yn eang, o raglenni datblygiad sefydliadol i gleientiaid a all bara am ddwy i dair blynedd, i ymyriadau hyfforddiant un-tro, neu fentora/hyfforddi i unigolyn.

Cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd TMPL
Gweledigaeth TMPL yw galluogi sefydliadau a'r unigolion ynddynt i gyflawni eu potensial llawn.

Ein cenhadaeth yw darparu'r cymorth, hwylusiad, hyfforddiant, ymgynghoriaeth, cyngor, gwybodaeth a systemau sy'n galluogi sefydliadau ac unigolion i gyflawni'r potensial hwnnw.

Mae gwaith TMPL wedi'i ganoli ar set o werthoedd ac egwyddorion. Mynegir y datganiadau moesegol hyn yn glir fel eu bod yn rhan eglur o'r berthynas rhwng yr ymgynghoriaeth a'r cleient.

Mae TMPL yn gwneud llawer iawn o waith hyfforddi a datblygu ochr yn ochr â'n gwaith ymgynghoriaeth, ac yn aml ar y cyd ag ef. Felly rydym yn mabwysiadu Safonau Hyfforddi gan mai hwy yw'r arfer gorau, ac yn yr ystyr honno yn cynnig 'cod' i ymarferwyr ei ddilyn. Fel Canolfan Dyfarnu NVQ, mae TMPL credu'n gryf mewn dangos y safonau yn ei holl waith ymgynghoriaeth a hyfforddiant.

Mae TMPL yn mynegi ein bwriad i ddarparu gwaith i'r sa fonau hyn trwy ymrwymiad i bum Datganiad o Werthoedd:
1. hybu a chefnogi dewisiadau unigolion
2. hybu, cefnogi a darparu ymgynghoriaeth, hyfforddiant a datblygiad sy'n cynnig y cyfle gorau i ddiwallu anghenion y sefydliad  
3. cydnabod hunaniaeth a gwerthoedd eraill
4. cyfathrebu'n effeithiol  
5. darparu a hybu cyfle cyfartal

TMPL Consultants a TMPL Training yw enwau masnachu: The Management Process Limited cofrestrwyd yng Nghymru 2764877, swyddfa gofrestredig yng Nghaerdydd. Dylid ystyried pob gohebiaeth, contract, archeb a thrafodyn arall fel un a wneir gan y Cwmni yn unig ac nid gan unrhyw unigolyn.

Amrywiaeth gwaith a chanlyniadau TMPL
Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i roi cymorth iddynt gyrraedd y man lle maent eisiau bod. Mae amrywiaeth ein gwaith yn fawr ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys:


Beth sy'n gwneud TMPL yn wahanol?
Mae gan TMPL:
1.        weledigaeth wedi'i seilio ar alluogi cleientiaid i gyflawni eu nodau hwy, nid ein nodau ni
2.        dull proses at ymgynghoriaeth, wedi'i seilio ar ddamcaniaeth ac wedi'i datblygu trwy ddeng mlynedd ar hugain o ymarfer
3.        dull tîm - nid un person yn unig - sy'n sicrhau ystod eang o brofiad a gwasanaethau gweinyddol amserol
4.        dull sefydliadol o'r math diweddaraf, sy'n defnyddio technoleg i sicrhau y gall ei staff a'i gleientiaid i gyd weithio a rhyngweithio mewn modd cydweithredol
5.        dwy swyddfa - Dyfnaint a Chaerdydd, sy'n rhoi cymorth logistaidd i gleientiaid ledled y DU ac Ewrop
6.        dull gwerth da am arian - gan fanteisio ar sgiliau'r tîm, a sicrhau y defnyddir adnoddau cost-effeithiol ar bob cam mewn prosiect
7.        profiad ym meysydd proses a chleientiaid fel ei gilydd - dim cyfnod dysgu, cychwyn yn gyflym a sicrhau canlyniad yn brydlon
8.        mae profiad helaeth ar draws llawer o sectorau yn dod â syniadau a dulliau newydd
9.        ymgynghorwyr cefnogol a fydd bob amser yn gwneud tipyn yn fwy i gael y canlyniad gorau i'r cleientiaid


Achrediad
Canolfan a gymeradwyir gan OCR ac Edexcel

Darparwr Hyfforddiant a gymeradwyir gan y Gwasanaeth Cyflogaeth

Achredwyd gan Birmingham and Solihull Business Link, rhestrir ar y National Business Link Consultants Register

Mae TMPL yn gyflenwr achrededig gwasanaethau ymgynghoriaeth/proffesiynol i raglen Adfywio Cymunedol Awdurdod Datblygu Cymru

Buddsoddwr mewn Pobl